Croeso i wefan Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Caerdydd, lle gallwch chi gael hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch pob agwedd o addysg, hyfforddiant a chyhoeddusrwydd diogelwch y ffyrdd.
Cewch fanylion hefyd am y gwasanaethau diogelwch ffyrdd lleol a gynigir gan Gyngor Caerdydd. Mae llawer o wybodaeth ar y safle ar gyfer ysgolion a phlant o bob oed a gallu, e.e. Cwisiau, cystadlaethau, syniadau project Llwybrau Mwy Diogel i’r Ysgol a’r Clwb ‘Roadie’.
Mae’r wefan hefyd yn cynnig cysylltiadau â gwefannau diogelwch y ffyrdd eraill ac yn darparu cyfleuster chwilio defnyddiol.
Gall ysgolion a sefydliadau addysgol fenthyg ystod eang o adnoddau addysgol diogelwch y ffyrdd, yn gysylltiedig â’r cwricwlwm cenedlaethol. Cliciwch ar y ddolen isod i ymweld â’n Canolfan Diogelwch y Ffyrdd.

