Cerbyd Diogelwch y Ffyrdd Newydd

Mae gan y cerbyd, a gafodd ei godi gan Gwmni Vipex yn Nottingham, wisg allanol unigryw iawn a lliwgar, sy’n dynodi mannau adnabyddus lleol yng Nghaerdydd.

Mae’r cerbyd wedi ei aerdymheru, mae ganddo’r cyfleusterau lifft diweddaraf i bobl anabl, ac mae’n cynnwys dwy adain estynedig ar yr ochr, sy’n cynyddu gofod mewnol y cerbyd yn sylweddol.

Mae’r brif ran yn cynnwys efelychydd gyrru, a ddatblygwyd gan Gwmni XPI Simulation yn Surbiton, Surrey, tri chyfrifiadur ‘sgrin gyffwrdd’, sy’n unigryw i Gyngor Caerdydd a chwaraewr DVD/fideo, sydd wedi ei gysylltu i sgrin blasma 42 modfedd, ynghyd â seinyddion sain o’ch amgylch.

Dyluniwyd llawr mewnol y cerbyd i efelychu ffordd ag arni balmentydd gan alluogi arddangosfeydd ymarferol diogelwch cerddwyr gan ddefnyddio cyfleusterau model croesfan i gerddwyr fel croesfannau sebra, twcan, pâl neu belican.

Bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ar draws y ddinas mewn mwy na 150 o ysgolion cynradd ac uwchradd, yn y prif archfarchnadoedd, mewn gwyliau a diwrnodau agored i annog gymaint o bobl â phosibl i ymweld â’r cerbyd.

Gellir cael manylion pellach drwy gysylltu â Chanolfan Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Caerdydd.