Hyfforddi ar gyfer Beicwyr Modur
Cynhelir cyrsiau hyfforddi sylfaenol chwe wythnos yn y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd yn ystod tymhorau hydref a gaeaf yr ysgol, ac maent ar gael i holl ddisgyblion ysgolion uwchradd Caerdydd.
Y prif bwyslais yw rheoli’r peiriant ac arfer gyrru da, ond mae’r cwrs hefyd yn rhoi gwersi theori yn yr ystafell ddosbarth, sy’n ymdrin â dogfennau cyfreithiol, gwisg amddiffynnol, Rheolau’r Ffordd Fawr a rheoliadau traffig, economeg gyrru beic modur ac yfed a gyrru.
Ar ôl cwblhau’r cwrs bydd pob disgybl yn ymgymryd ag asesiad gyrru ymarferol sylfaenol, ac os ydynt yn llwyddiannus, byddant yn cael tystysgrif. Os yr ydych yn athro ysgol uwchradd ac yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd.
Sefydliadau Hyfforddi Beiciau Modur Cymeradwy yng Nghaerdydd
- 1st Class Rider Training — Caerdydd ffôn: 029 2031 3465 neu ffôn symudol 07773 303 654 www.1stclassrider.co.uk
- Capitol Motorcycle School — 5 Heol-y-Wern, Rhiwbeina, Caerdydd, CF14 6NG Ffôn. 029 2064 1180
- Cardiff Motorcycle School — Canolfan Bêl-droed Gôl, Lawrenny Avenue, Lecwydd, Caerdydd, CF11 8BR Ffôn. 029 2039 0329
- Hyfforddiant Celtic Rider — 6 Abbey Close, Ffynnon Taf, Caerdydd, CF15 7RS Ffôn Symudol: 07944 036 896 Ffôn Tir: 029 2033 7539 www.celticridertraining.co.uk
- Cymru Motorcycle School — Bookers Cash and Carry, Excelsior Road, Western Avenue, Caerdydd CF14 3XL Ffôn. 029 2064 1180
- United Motorcycle Advanced Training Ltd (UMAT) — 5 Cwrt-y-Parc, Earlswood Road, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GH. Ffôn: 029 2074 1124 Ffacs: 029 2074 1128 Ffôn Symudol: 07811 591777 9am. – 6pm. www.umat.co.uk
Bike Safe Cymru
Mae BikeSafe yn fenter a redir gan Heddluoedd ar draws y Deyrnas Unedig sy’n gweithio gyda’r byd beicio i helpu i leihau nifer y damweiniau ym mhlith gyrwyr beiciau modur. Trwy drosglwyddo eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gall beicwyr modur yr heddlu eich helpu i fod yn feiciwr modur mwy diogel a chymwys.
Mae’r Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd yn gartref i BikeSafe Cymru ar hyn o bryd.

