Gyrwyr Hŷn
Yn ystadegol mae gyrwyr hŷn yn llai tebygol o gael
damwain car na gyrwyr iau neu lai profiadol. Maeymchwil yn dangos fod gyrwyr aeddfed yn gwneud llai o siwrneiau, a siwrneiau byrrach na phobl iau, ac ynteithio ar ffyrdd cyfarwydd yng ngolau ddydd gan amlaf.
Ond, mae effaith anochel heneiddio yn gallu effeithio ar eich golwg, eich clyw a’ch gallu i farnu perygl ac efallai na fyddwch yn sylwi ar y newidiadau graddol hyn. Os hoffech wella’ch sgiliau gyrru, ffoniwch y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd: 029 2078 8522 i gael pamffled am ddim, Cyngor i Yrwyr Hŷn.
Cwrs Gloywi i Yrwyr Hŷn 2012
Mae’r Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd wedi bod yn trefnu seminarau i Yrwyr Hŷn ers 2006. Mae pob seminar yn 2 ½ awr, a’r bwriad yw adfywio eich sgiliau gyrru ymarferol a’ch gwybodaeth am Reolau’r Ffordd Fawr. Byddwn yn trafod:
- Effeithiau cyflymdra
- Pellteroedd stopio
- Ymdrin â chyffyrdd
- Arsylwi gyrwyr
- Achosion damweiniau ac iechyd
Seminar Gloywi Gyrwyr Hŷn Rhaglenni 2012
Cyfarwyddiadau i’r Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd
Pass Plus Cymru – Cynllun Gwella Gyrwyr Ifanc
Mae Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Caerdydd ar y cyd â Diogelwch y Ffyrdd Cymru, Hyfforddiant Gyrru MAC ac awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru yn hybu’r project hwn unwaith eto o’r enw “Pass Plus Cymru”, hyd at Fawrth 2012.
Mae’r project wedi ei anelu at yrwyr ifanc sydd newydd basio’u prawf ac yn bwriadu eu helpu i wella eu sgiliau gyrru, cael mwy o brofiad, a chael gostyngiad ar eu hyswiriant car.
Bydd y project yn rhedeg o Fawrth 2012 a bydd disgwyl i’r gyrwyr ifanc fynychu sesiwn theori tair awr, sy’n cael ei gynnal yng Ngorsaf Dân Trelái ar fore Sadwrn ac yn cael ei ddilyn gan sesiwn wyth awr ‘ar-y-ffordd-mewn-car” (wedi er rannu rhwng dau yrrwr) gyda Hyfforddwr Gyrru Cymwys cofrestredig Pass Plus.
Bydd y cynllun Pass Plus yn cynnwys chwe modiwl wedi eu cynllunio’n arbennig i gynnwys:
- Gyrru o gwmpas y dref
- Gyrru y tu allan i’r dref
- Gyrru ym mhob tywydd
- Gyrru gyda’r nos
- Gyrru ar ffyrdd cerbydau deuol
- Gyrru ar draffyrdd
Pynciau eraill yw gyrru amddiffynnol, ymwybyddiaeth o beryglon, canolbwyntio, cyflymder, gyrru a chyffuriau ac yfed, agweddau ac ymddygiad diogel.
Gan y bydd y cyfranogwyr yn cael eu hyfforddi gan hyfforddwr gyrru proffesiynol, byddan nhw’n ennill profiad gwerthfawr ychwanegol a sgiliau monitro positif a fyddai fel arall yn cymryd amser hir i’w meistroli.
Bydd yr holl yrwyr ifanc sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i wella’u sgiliau gyrru ar y cynllun Pass Plus gwell hwn, a gefnogir hefyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Pam ddylai gyrwyr ifanc ystyried Pass Plus Cymru?
Yn ogystal â gostwng y perygl o fod mewn damwain car, bydd y cynllun yn eich galluogi i ennill profiad a sgiliau gwerthfawr. Ar gwblhau’r cwrs bydd pob ymgeisydd yn cael Tystysgrif Cyflawni yn ogystal â Thystysgrif Pass Plus. Mae cost y cwrs, sydd wedi ei achredu gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn £20, gostyngiad sylweddol o’r costau arferol rhwng £120 a £150.
I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs rhai i chi fod: Rhwng 17 a 24, yn berchen ar drwydded yrru lawn ac yn byw yng Nghymru
I gael mwy o fanylion neu i gofrestru ar-lein, ewch i’r cyfeiriad gwefan isod neu fel arall ffoniwch 0845 050 4255 i archebu.
Y Ddeddf Ffonau Symudol
Mae’n anghyfreithlon gafael mewn ffôn symudol i’w ddefnyddio wrth yrru, ac aeth y dirwyon i fyny o 27 Chwefror 2007. Byddwch bellach yn cael £60 o ddirwy a thri phwynt ar eich trwydded.
Diffoddwch y ffôn cyn gyrru.
Nid yw ffonau symudol a gyrru yn cymysgu.
Mae gan ffonau symudol sawl cryfder. Maent yn rhoi diogelwch ac yn gallu bod o gymorth mawr mewn argyfwng. Ond mae profion yn dangos bod gyrwyr yn methu â pheidio cael eu tarfu gan alwad ffôn neu neges destun. Os yw’r ffôn yn tarfu arnoch, fyddwch chi ddim yn gweld peryglon nac yn ymateb yn gyflym. Nid yw sgwrs ar ffôn heb ddwylo yn tarfu llai nag un yn y llaw.
Gallech hefyd gael eich erlyn am ddefnyddio ffôn symudol heb ddwylo os nad ydych mewn rheolaeth lawn o’ch cerbyd. Yna bydd y gosb yr un fath ag am ddefnyddio ffôn llaw ac mae’r gosb am yrru’n ddiofal neu’n beryglus wrth ddefnyddio ffôn yn gallu cynnwys gwaharddiad, dirwy drom a hyd at ddwy flynedd o garchar.
I gael copi am ddim o’r daflen ‘Marw i ateb yr alwad’, cysylltwch â Uned Diogelwch ar y Ffyrdd.




