Dylid annog marchogwyr ceffylau i ymgymryd â hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd, sydd ar gael trwy amryw o gyrff marchogaeth.
Helmedau ar gyfer Marchogwyr Ceffylau
Mae’n orfodol, o dan y Rheoliadau Ceffylau (Penwisg Amddiffynnol i Farchogion Ifanc) 1992, i blant o dan 14 oed wisgo penwisg amddiffynnol wrth farchogaeth ceffyl ar y ffordd. Rhaid i’r benwisg gydymffurfio ag un o’r safonau uchod neu ddwyn marc cydymffurfiaeth y Comisiwn Ewropeaidd.
Eithrir plant o grefydd Sikh os ydynt yn gwisgo twrban.
Mae’r Gymdeithas Geffylau Prydeinig yn argymell bod marchogion ifanc ceffylau yn cael eu hamddiffyn yn well trwy wisgo helmed sydd wedi’i chynllunio’n bwrpasol ar gyfer y gweithgaredd hwnnw ac yn cydymffurfio â BS EN1384, PAS015 neu ASTM F1163 ac yn dwyn nod barcud y BSI neu’r SEI.
Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi penderfynu ei bod yn fwy realistig caniatáu’r defnydd o helmedau seiclo a helmedau marchogaeth fel ei gilydd. Sail y gred hon yw bod gan nifer o blant helmed seiclo yn barod, a’i bod yn fwy tebygol y byddant yn cydymffurfio os caniateir iddynt ddefnyddio helmed seiclo yn hytrach na’u gorfodi i brynu helmed wedi’i chynllunio a’i gwerthu’n benodol ar gyfer marchogwyr ceffylau.
Yn absenoldeb tystiolaeth fod helmedau seiclo yn anaddas ar gyfer marchogwyr ceffylau sy’n defnyddio’r ffordd, mae RoSPA yn derbyn fod helmedau seiclo sy’n cydymffurfio â BS 6863 yn dderbyniol fel dewis arall.
Gwelededd
Mae unrhyw gymorth gwelededd (gwisg neu atodyn) yn debygol o fod yn rhy bell oddi wrth belydrau goleuadau car i fod o gymorth ar gyfer rhwystro damweiniau. Fodd bynnag, gallai fod yn fuddiol defnyddio bandiau pigwrn a strap warthol fflworoleuol/adlewyrchol.
Cyn marchogaeth
Cyn i chi fynd â cheffyl ar y ffordd, dylech sicrhau bod pob tac yn ffitio’n iawn ac mewn cyflwr da a’ch bod yn sicr o’ch rheolaeth dros y ceffyl. Marchogwch gyda cheffyl arall llai nerfus os ydych yn credu bod eich ceffyl yn nerfus o gwmpas traffig. Peidiwch byth â marchogaeth ceffyl heb gyfrwy na ffrwyn.
Gyda’r nos
Mae’n fwy diogel peidio â marchogaeth ar y ffordd gyda’r nos neu os yw gwelededd yn isel. Ond, os gwnewch hynny, sicrhewch fod gan eich ceffyl fandiau adlewyrchol uwchben y cymalau bacsen. Cariwch olau, sy’n dangos gwyn am ymlaen a choch am yn ôl.
Marchogaeth ar y ffordd
Cyn symud i ffwrdd neu droi gyda’ch ceffyl, edrychwch y tu ôl i chi er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel, yna rhowch arwydd braich clir. Wrth farchogaeth ar y ffordd, dylech gadw at y chwith.
Rheolaeth dros farchogwyr ifanc
Ni ddylai marchogwyr ifanc, yn enwedig o dan 10 oed, farchogaeth ar eu pen eu hunain, dylai marchogwr hŷn a phrofiadol (oedolyn) gyd-deithio â nhw ar briffyrdd cyhoeddus.
Mae nifer o farchogwyr ifanc a dibrofiad yn cael trafferth rheoli eu hanifeiliaid. PEIDIWCH BYTH â gadael i farchogwyr dibrofiad neu ifanc fynd ar briffordd gyhoeddus os nad ydych yn hollol fodlon fod ganddynt y sgiliau ffordd hanfodol.
Modurwyr a cheffylau
Cymerwch ofal a gyrrwch yn ofalus heibio i geffylau sy’n cael eu tywys neu’u marchogaeth, yn enwedig ar ffyrdd cul cefn gwlad neu ffyrdd sy’n troelli i’r chwith. Mae ceffylau yn greaduriaid pwerus, ond cânt eu brawychu’n rhwydd gallent fynd i banig. Mae hyd yn oed darn o sbwriel yn chwythu ar draws y ffordd yn gallu brawychu anifail.
Cynghorion sylfaenol i fodurwyr
Rhowch ddigon o le i geffylau, a byddwch yn barod i stopio os oes angen.
Peidiwch byth â chanu corn na ‘refio’ eich injan.
Gwyliwch am signalau gan farchogwyr ceffylau. Wrth droi i’r dde, bydd y marchogwr yn gosod y ceffyl ar y chwith.
Os oes plant yn marchogaeth ceffylau neu ferlod – cymerwch ofal ychwanegol.
Byddwch yn barod am ymddygiad annisgwyl.
Cymdeithas Ceffylau Prydain
I helpu marchogwyr i wella eu sgiliau diogelwch ar y ffyrdd, mae Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cynnal hyfforddiant a phrofion Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffyrdd Cenedlaethol, ac yn cyhoeddi thaflen am ddim – ‘How to be a Safer Rider’, sydd ar gael gan eu Hadran Ddiogelwch o’r cyfeiriad canlynol:
The British Horse Society, Stoneleigh Deer Park, Kenilworth, Warwickshire. CV8 2XZ Rhif Ffôn 08701 202244, Ffacs 01926 707800 neu cliciwch ar y ddolen isod
Mae gan y Ganolfan Ddiogelwch y Ffyrdd nifer o adnoddau yn ymwneud â marchogaeth ceffylau, gan gynnwys fideos sydd ar gael i’w benthyg am ddim. I gael rhagor o fanylion ffoniwch 029 2078 8521.

