Cynllun Seddau Babanod

Fel rhan o’i hymrwymiad i leihau’r nifer o blant sy’n cael eu hanafu mewn damweiniau car, mae’r Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd yn cynnig cynllun benthyg sedd baban AM DDIM. Neu gallech chi brynu’r sedd am £20.

Teithio’n ddiogel – y tro cyntaf

Gallwch fenthyg y sedd am gyfnod o hyd at bythefnos ac mae’n ddelfrydol defnyddio’r sedd i gario’r baban adref yh ddiogel o’r ysbyty mewn car neu dacsi. Mae’n sedd ysgafn, sy’n wynebu am yn ôl, ac yn addas ar gyfer plant rhwng  0 a 9 mis oed 9Kg (20lbs) sy’n cydymffurfio â’r safonau  BSI angenrheidiol.

Mae’r arbenigwyr yn dweud ei bod yn beryglus defnyddio seddi car ail law ac rydym ni’n annog rhieni i brynu seddi car mewn siopau masnachwyr cyfrifol yn unig, oni bai eu bod yn gwybod yn bendant nad yw’r sedd wedi’i thorri mewn damwain. Dylid darparu’r llyfryn cyfarwyddiadau gan y cwmni cynhyrchu ac unrhyw gydrannau eraill hefyd.

Amcangyfrifir bod un ym mhob deg sedd car a ddefnyddir yn beryglus, am eu bod eisoes wedi bod mewn damwain car.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltu â ni neu ewch i wefan seddi ceir plant ardderchog ROSPA isod.