Mae’n ddogfen neu ddatganiad sy’n pennu rhaglen mesurau neu fentrau i leihau’r nifer o deithiau cerbyd a wnaed gan blant, rhieni a staff yn ôl ac ymlaen yr ysgol, gan wella diogelwch personol ar y ffordd i’r ysgol.
Beth yw Cynllun Teithio i’r Ysgol
Mae’n ddogfen neu ddatganiad sy’n pennu rhaglen mesurau neu fentrau i leihau’r nifer o deithiau cerbyd a wnaed gan blant, rhieni a staff yn ôl ac ymlaen yr ysgol, gan wella diogelwch personol ar y ffordd i’r ysgol.
Caiff pob ysgol ei hannog i ddatblygu a gweithredu cynlluniau teithio i’r ysgol, sy’n amcanu at
- Lleihau’r tagfeydd traffig o amgylch ysgolion
- Cynyddu diogelwch personol disgyblion a rhieni ar y ffordd i’r ysgol
- Cynnig ffordd arall o deithio i blant a rhieni
- Lleihau’r risg o gael eu hanafu mewn damwain
- Gwella iechyd a ffitrwydd
- Bodloni anghenion y disgyblion drwy nodi’r problemau a wynebwyd ar y ffordd i’r ysgol
- Datblygu annibyniaeth a hunan barch disgyblion
- Lleihau ofnau rhieni am beryglon traffig
Datblygu Cynllun Teithio i’r Ysgol
Ni ddylai datblygu Cynllun fod yn broses hir a chymhleth, oherwydd y bydd cynnwys y cynllun yn amrywio o ysgol i ysgol. Dylai fod yn ddogfen weithredol a fydd yn agored i’w newid a’i gwella.
Dylai gynnwys y canlynol:
- Cyflwyniad — yn disgrifio beth yw a pham fod ei angen ar yr ysgol
- Disgrifiad byr o’r ysgol — yn cynnwys niferoedd disgyblion, lleoliad yr ysgol, y dalgylch ac unrhyw ffactorau perthnasol sy’n gallu effeithio ar deithio i’r ysgol
- Tystiolaeth ymgynghori — Gan gynnwys arolygon teithio i’r ysgol a/ neu holiaduron
- Mentrau arfaethedig â nodau a thargedau — Gellir cynnwys mesurai arafu traffig, cyfleusterau croesi mwy diogel, llwybrau beicio a mesurau adfer eraill
- Rhaglen gweithredu — pryd fydd yr ysgol yn gweithredu a’r hyn sydd angen i’r awdurdod lleol wneud
- Cynlluniau monitro ac adolygu
Mae gwybodaeth ychwanegol ynghylch cynlluniau teithio i’r ysgol ar gael gan y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd drwy glicio ar y cyswllt. Mae gwybodaeth ynghylch Sut i Ddatblygu Cynllun Teithio i’r Ysgol ar gael ar lein isod.
