Clwb Traffig Cenedlaethol y Plant

Mae Clwb Traffig Cenedlaethol i Blant yn ffordd hwyliog i rieni a gwarcheidwaid ddysgu diogelwch ar y ffordd i blant.

Gwybodaeth am y Clwb Traffig Plant

Mae’r Clwb Traffig Plant yn helpu rhieni i addysgu eu plant i gadw’n ddiogel wrth chwarae allan, cerdded neu deithio yn y car.

Ei nod yw helpu lleihau nifer y plant sy’n cael eu hanafu ar y ffyrdd bob dydd.

Mae’r Clwb Traffig Plant ar gyfer plant 3 neu 4 oed, ac yn fodd i’r plant a’u rhieni weithio gyda’i gilydd.

Mae’r Clwb Traffig Plant yn HWYL — ac yn cynnig y cyfle i blant ddysgu sut i fod yn ddiogel! Cynigir aelodaeth o’r clwb i bob plentyn 3 oed yng Nghaerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod neu ffoniwch y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd.