Diogelwch Ffyrdd ger Ysgolion

Mae mynd i’r afael â thagfeydd traffig a pharcio peryglus ac anghyfreithlon gan rieni yn rhy agos i fynedfeydd ysgolion yn un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r Cyngor. Mae modurwyr yn peryglu bywydau plant bach a rhieni pob dydd o’r wythnos, yn enwedig yn ystod amseroedd ysgol. Mewn ymgais i dynnu sylw at y peryglon y mae rhieni a gwarcheidwaid yn eu creu y tu allan i ysgolion, mae’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn defnyddio nifer o ddulliau cyhoeddusrwydd, mentrau gan ysgolion ac ymgyrchoedd gorfodi i bwysleisio’r neges am bwysigrwydd diogelwch.

Arwydd Gallai parcio yma beryglu bywyd plentyn

Mae’r rhain yn arwyddion dwyieithog hawdd eu gweld. Bwriad yr arwyddion yw eu gosod ar adeiladau ysgol ac maent ar gael am ddim i ysgolion Caerdydd.

Taflen Diogelwch y Ffyrdd ger ysgolion

Mae hon yn daflen liwgar ddwyieithog sy’n tynnu sylw at y peryglon a all ddeillio o barcio’n rhy agos at ysgolion ar adegau prysur o’r diwrnod ysgol.

Os hoffai eich ysgol chi gael copïau am ddim cysylltwch â Chanolfan Diogelwch y Ffyrdd.

Cadw'r llinellau Igam-Ogam yn glir

Mae’r cynllun Parcio’n Ddiogel – Cerdded yn ddiogel i’r ysgol

Mae’r cynllun hwn yn weithredol mewn nifer o ysgolion yng Nghaerdydd. Y bwriad yw annog mwy o bobl i gerdded a seiclo i’r ysgol ac felly achosi llai o dagfeydd traffig ac achlysuron o barcio’n rhy agos i’r fynedfa.

Amcanion y cynllun yw:

  • Lleihau’r perygl o blentyn neu riant yn cael ei ladd neu anafu
  • Lleihau tagfeydd traffig o gwmpas yr ysgol
  • Lleihau sŵn a llygredd
  • Darparu ymarfer corff dyddiol
  • Addysgu plant ifanc am sgiliau diogelwch ar y ffyrdd

Mwy o fanylion ar gael ar gais


Cynllun Conau Gwyrdd

Mae dros bedwar deg o ysgolion cynradd Caerdydd nawr yn defnyddio Conau Gwyrdd arbennig ar y ffordd i rwystro modurwyr rhag parcio ar y llinellau igam ogam melyn gerllaw’r fynedfa.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi caniatâd arbennig i osod y coniau hyn ar y ffordd. Mae swyddogion heddlu lleol yn cydweithio gyda’r cynllun a gellir erlyn unrhyw fodurwr sy’n symud côn.

Mae parcio ychydig bellter o’r ysgol yn cael gwared ar dagfeydd traffig, yn dod â budd i iechyd ac yn annog rhieni i ryngweithio gyda’u plant ar ystod o faterion diogelwch cerddwyr.

Baneri Ysgol Diogelwch Ffyrdd ac Arwyddion Rhybuddio rhag Parcio

Bwriad y baneri hyfryd hyn yw tynnu sylw rhieni a gwarcheidwaid at y neges ddiogelwch. Mae’r baneri wedi cael eu cynllunio gan blant ac yn cyfleu neges ddiogelwch mewn ffordd liwgar iawn.

Arwyddion melyn rhybuddio rhag parcio

Mae’r arwyddion hyn yn cael eu defnyddio mewn nifer o ysgolion Caerdydd ac yn dangos negeseuon wedi eu llunio gan blant ysgol.

Parthau Diogelwch Ysgol

Mae Parth Diogelwch Ysgol yn fesur arafu traffig ffisegol, sy’n cynnwys dwy fynedfa gul a adeiladir ar y ffordd gerbydau naill ochr i fynedfa’r ysgol a chyfleuster croesi ger mynedfa’r ysgol. Mae’r parth wedi’i gynllunio i leihau cyflymder traffig yn ardal yr ysgol, atal pobl rhag parcio ac ymgynnull ger gât yr ysgol a lleihau’r risg o blentyn neu riant yn cael ei anafu.

Mae 15 o barthau wedi cael eu creu mor belled ac mae mwy wedi eu cynllunio at 2010 ac ar ôl hynny.

Diogelwch ar y Ffyrdd i Blant yng Nghaerdydd

Mae’r fenter hon yn bartneriaeth rhwng Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd ac fe’i lansiwyd ddechrau 2010. Byddwn yn gweithredu polisi ‘dim goddefgarwch’ tuag at barcio anghyfreithlon a pheryglus ger clwydi ysgol.

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno’n gyfan gwbl bydd rhai ysgolion yn cael eu dethol i dderbyn llythyr sy’n egluro wrth rieni y byddant yn derbyn dirwy a phwyntiau ar eu trwydded os ydynt yn parhau i barcio’n anghyfrifol. Yn ystod wythnos gyntaf yr ymgyrch bydd llawer o heddlu i’w gweld y tu allan i ysgolion, ynghyd â baneri lliwgar yn hyrwyddo’r fenter. Yn ystod yr ail wythnos, bydd hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu cyflwyno i fodurwyr sydd yn anwybyddu’r rhybudd.

Mae parcio ger ysgolion, a’r peryglon sy’n deillio o hyn i gerddwyr, a phlant yn enwedig, yn broblem sydd wedi bod yn amlwg ers tipyn. Mae’r cynnydd yn y nifer o geir, a strydoedd llawn traffig, wedi gwneud y broblem yn waeth fodd bynnag. Erbyn hyn mae’n destun gofid mawr.

Troseddau cyffredin y bydd swyddogion heddlu yn eu targedu:

  • Aros/ parcio ar lwybr troed
  • Parcio mewn ardal DIM AROS h.y. llinellau melyn dwbl neu linellau ysgol cadwch yn glir
  • Parcio mewn ardal DIM Parcio
  • Parcio dwbl
  • Parcio mewn Lonydd Bysiau
  • Parcio ar lain naturiol neu lain ymyl heb ganiatâd y perchennog
  • Parcio mewn ffordd sy’n golygu bod y cerbyd yn rhwystr

Cynllun Swyddog Cymorth Cymunedol Ifanc yr Heddlu…