Lansiwyd y cynllun Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Iau gan yr Uned Diogelwch y Ffyrdd (JRSO), ar y cyd â phum ysgol gynradd yn ystod tymor yr hydref 2004. Ar hyn o bryd mae deuddeg ysgol yn rhan o’r cynllun.
Cefndir y cynllun JRSO
Mae’r Cynllun Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Iau wedi bod yn rhedeg mewn nifer o awdurdodau lleol ar draws y DU am nifer o flynyddoedd gan gynnwys Abertawe, Sir Gaer, Swydd Gaerlŷr, rhannau o Lundain a’r Alban.
Mae’r cynllun yn boblogaidd iawn yng Nghaerdydd, gyda deuddeg ysgol ar hyn o bryd yn rhan o’r fenter gyda llawer mwy yn dangos diddordeb. I gefnogi’r cynllun JRSO, mae llyfr gwaith lliwgar dwyieithog wedi ei ddatblygu hefyd.
Sut mae’r cynllun yn gweithio
Bob blwyddyn, penodir dau Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Iau o flwyddyn 6 ym mhob un o’r ysgolion. Bydd JRSO’s yn gwasanaethu am gyfnod o flwyddyn, a byddant yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r Uned Diogelwch y Ffyrdd i hyrwyddo mentrau diogelwch y ffyrdd yn yr ysgol.
Sut i fod yn JRSO
Gall disgyblion ar ddiwedd blwyddyn 5 ymgeisio i fod yn JRSO, drwy lenwi ffurflen gais. Ar y ffurflen rhaid iddynt nodi pam y byddent yn hoffi’r swydd, a’r hyn a fyddai’n eu gwneud yn JRSO da. Gall yr ymgeiswyr yna fynychu cyfweliad. Mae’r panel cyfweld fel arfer yn cynnwys y JRSOs, athro a/neu Swyddog Diogelwch y Ffyrdd.
Unwaith y bydd y JRSOs wedi’u penodi bydd y Swyddog Diogelwch y Ffyrdd yn eu cyfarfod gan roi pecyn gwybodaeth arbennig iddynt a dweud beth yw eu dyletswyddau ar gyfer y flwyddyn.
Rôl Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Iau
Mae JRSO yn swydd bwysig iawn. Mae rhaid iddynt:
- Edrych ar ôl hysbysfwrdd diogelwch y ffyrdd a gwneud yn siŵr bod y wybodaeth diogelwch y ffyrdd yn gyfredol
- Siarad mewn gwasanaethau ysgol ac i ddosbarthiadau ar bynciau diogelwch y ffyrdd
- Cynnal cystadlaethau yn yr ysgol
Os hoffech wybodaeth bellach ynglŷn â’r cynllun neu os hoffech i’ch ysgol fod yn rhan o’r fenter, cysylltwch â Germaine Walsh yn y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd.
