Mae staff yn yr Uned Diogelwch y Ffyrdd yn gallu mynd ar ystod o gyrsiau hyfforddi ymarferol ac arddangosfeydd mewn meithrinfeydd, ysgolion babanod a chynradd yn ystod y tymor ysgol.
Mae aelodau’r tîm Diogelwch y Ffyrdd ar gael ar adegau arbennig yn y flwyddyn i ymweld ag ysgolion meithrin, babanod, cynradd, arbennig ac uwchradd yng Nghaerdydd i wneud arddangosiadau diogelwch ffyrdd a chyrsiau hyfforddi, h.y.
- Arddangosiadau Roadie ar droed (gweler tudalen Roadie am fwy o fanylion)
- Arddangosiadau ar droed mewn meithrinfeydd a dosbarthiadau babanod
- Grwpiau Rhieni a Babanod
- Cyrsiau hyfforddi seiclo; gweler ein tudalen seiclo (am un wythnos, unai am neu pm)
- Cwrs ymwybyddiaeth seiclo un sesiwn
- Arddangosiadau gwregys diogelwch a chyfeiriwr cyflymdra
- Cyflwyniadau diogelwch bysus
- Cyflwyniadau cyffredinol a chyngor ar y rhan fwyaf o agweddau o ddiogelwch y ffyrdd, h.y. Yn Amlwg, Yn Ddiogel
Sylwch os gwelwch yn dda! Rhaid bwcio pob ymweliad o flaen llaw ac maent yn unol ag argaeledd staff.
Dangosydd Cyfeiriwr Cyflymdra
Mae’r Uned Ddiogelwch y Ffyrdd wedi cael dau SID, sy’n cael eu defnyddio’n bennaf ar y cyd ag ysgolion sy’n rhan o’r cynllun Llwybrau Mwy Diogel i Ysgolion neu brojectau diogelwch y ffyrdd tebyg.
Mae’r offer yn dangos cyflymdra’r cerbyd, yna’n dibynnu ar y cyfyngiad cyflymdra ar waith i ddangos un ai wyneb hapus neu un trist.
Arddangosiad gwregys diogelwch
Yn cynnwys y teulu Dimwitt, mae’r model arddangosiad ymarferol yma’n tanlinellu pwysigrwydd gwisgo gwregysau mewn ceir a cherbydau modur mewn ffordd hwyliog.
Os hoffech drefnu arddangosiad, cysylltwch â’r: Swyddog Ffyrdd Mwy Diogel i’r Ysgol yn y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd.
